Alun Davies AC
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Llywodraeth Cymru
27 Medi 2016
Annwyl Alun,
Diolch i chi am roi o’ch amser i ddod i'n cyfarfod ar 21 Medi i drafod eich cylch gwaith a chyfeiriad y Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd. Cydnabu'r Pwyllgor y ffaith na chafodd y Tasglu gyfle i gwrdd cyn i chi roi tystiolaeth a’r ffaith y byddai'n cyfarfod yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Gan fod y grŵp wedi cyfarfod erbyn hyn, a allwch roi’r wybodaeth a ganlyn i ni fel y cytunwyd:
- papurau a chofnodion cyfarfodydd cychwynnol y tasglu
- manylion y cylch gorchwyl a gytunwyd
- gwybodaeth am y cyfeiriad a'r fframwaith strategol
Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth,
hoffai'r Pwyllgor hefyd gael:
- manylion ynghylch sut mae'r Tasglu'n bwriadu gweithio ac ymgysylltu â phobl a chymunedau ledled y Cymoedd
- trefniadau monitro a gwerthuso ar gyfer gwaith y Tasglu
- cerrig milltir, targedau a dangosyddion llwyddiant y bydd y Tasglu yn eu defnyddio
- pryd, sut ac i bwy y bydd y Tasglu yn adrodd
- gwybodaeth am sut y bydd y Tasglu yn cydlynu ac yn gweithio gyda chynlluniau presennol yn yr ardal i sicrhau'r effaith fwyaf; mae'r rhain yn cynnwys: Dinas–Ranbarth, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, Dechrau’n Deg, a Chymunedau yn Gyntaf
- pa asesiad y bydd y Tasglu yn ei gynnal ar effaith ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb maes o law.
Cofion cynnes,
John Griffiths AC
Cadeirydd